Wel, weithian cod, fy enaid cu,
Dy lygaid tua'r nefoedd fry,
Gwel yr anfeidrol berffaith Iawn
Sy'n maddeu'th bechod oll yn llawn.
Y moroedd mawr a'r ddaear faith,
A llu'r ffurfafen, yw ei waith;
Er hyny, rhodd ei fywyd cu
I angeu chwerw drosof fi.
Y dwylaw wnaeth yr wybren lâs
Allasent gadw angeu i maes;
Ond ufuddhaodd iddo'n rhydd,
I gariad perffaith gario'r dydd.
Dyfnderoedd annhraethadwy mwy,
Didrai, difesur,
sy'n ei glwy';
Ein hanwireddau ddarfu ddwyn,
A ninnau'n rhyddion er ei fwyn.
Mae haeddiant fy Iachawdwr mawr,
Yn dioddef poen rhwng nef a llawr,
Filiynau maith
yn fwy ei rin
Na haeddiant seintiau'r
byd yn un.
Wel, dyma'r awr y talodd ef
Ofynion mwyaf, tryma'r nef;
Yn awr, mae'r carcharorion prudd
Yn llawen hyfryd ddod yn rhydd.
wybren :: wybr A all'sai :: Allasent
Tonau [MH 8888]: Tôn [8888+88]: Langadock (<1811)
gwelir: |
See, henceforth raise, my dear soul,
Thy eyes towards heaven above,
See the infinite, perfect Surety
Who is forgiving all sin fully.
The great seas and the vast earth,
And the host of the firmament, is his work;
Despite this, he gave his dear life
To bitter death for me.
The hands that made the blue sky
They could have kept death away;
But he was obedient to it freely,
For perfect love to carry the day.
Unutterable depths evermore,
Unebbing, immeasurable,
which are in his wound;
It was our falsehoods he took away,
And we who are free for his sake.
The merit of my great Saviour,
Suffering pain between heaven and earth,
Is vast millions of times
of greater virtue
Than the merit of the saints
of the world as one.
See, here is hour he paid
The greatest, heaviest demands of heaven;
Now, the sad prisoners are
Delightfully cheerfully coming free.
:: :: tr. 2019 Richard B Gillion |
|